2011 Rhif 962(Cy.136 )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

  Mae adran 1 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bŵer disgresiynol i osod ffi resymol ar oedolyn sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl (“defnyddiwr gwasanaeth”).

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn gosod ffi wrth ddarparu, neu wneud trefniadau i ddarparu, gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano (diffinnir “gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano” yn adran 13 o’r Mesur); fodd bynnag, mewn achosion pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gosod ffi ar y defnyddiwr gwasanaeth, rhaid i bolisi codi ffioedd yr awdurdod lleol hwnnw gydymffurfio â darpariaethau perthnasol y Rheoliadau hyn (a chydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 16 o Ddeddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003).

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi’r dosbarthiadau o bersonau a gwasanaethau na chaniateir i awdurdod lleol osod ffioedd arnynt neu mewn perthynas â hwy.

Mae rheoliad 5 yn rhagnodi bod pŵer awdurdod lleol i benderfynu ffi resymol am wasanaeth, neu gyfuniad o wasanaethau, y caniateir codi ffi amdano yn ddarostyngedig i uchafswm ffi rhesymol o £50 yr wythnos; mae hefyd yn cynnwys goleddfiadau i’r gosodiad cyffredinol hwnnw ac yn pennu pa gamau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd wrth gyfrifo’r swm y bydd rhwymedigaeth ar ddefnyddiwr gwasanaeth  i’w dalu.  

Mae’r rheoliadau 6 i 16 yn rhoi manylion ynghylch y camau yn y broses o asesu modd ariannol defnyddiwr gwasanaeth. Maent hefyd yn pennu pa faterion y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i ystyriaeth wrth asesu modd defnyddiwr gwasanaeth ac wrth wneud penderfyniad ynghylch gallu’r person hwnnw i  dalu ffi resymol am y gwasanaeth neu’r gwasanaethau a ddarperir.

Mae rheoliad 7 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn gwahodd defnyddiwr gwasanaeth i ofyn am asesiad modd. Mae’r rheoliadau dilynol yn gwneud darpariaeth ynghylch terfynau amser ar gyfer cyflenwi gwybodaeth neu ddogfennaeth i awdurdod lleol (rheoliad 8), ceisiadau am estyn yr amser a ganiateir i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth (rheoliad 9), y canlyniadau os peidir ag ymateb, yn llawn neu o gwbl, i wahoddiad i ofyn am asesiad modd (rheoliadau 10 ac 11) a thynnu cais o’r fath yn ôl (rheoliad 12).

Mae rheoliad 13 yn rhagnodi’r amgylchiadau pan nad oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth.

Mae rheoliad 14 yn cynnwys darpariaeth y mae’n rhaid i awdurdod lleol roi effaith iddi wrth gynnal asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth yn unol ag adran 5(1) o’r Mesur.

Mae rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r materion y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi resymol am y gwasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt ac a gynigir, neu a ddarperir, i’r person hwnnw.

Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r ddyddiad y caniateir gosod ffi ohono.

Mae rheoliadau 17 a 18 yn cynnwys darpariaeth arbedion ar gyfer asesiadau modd a phenderfyniadau ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi, a wnaed cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Mae rheoliadau 19 ac 20 yn cynnwys darpariaethau trosiannol a darfodol.

 

 


2011 Rhif 962(Cy. 136)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011

Gwnaed                               24 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       29 Mawrth 2011

Yn dod i rym                           11 Ebrill 2011

 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(2), 3(1), 4(1)(d), 4(3)(b), 4(4), 5(2)(a), 5(4), 6(5), 7(2), 8(3), 9(4)(d), 10(4)(f) a 17(2) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010([1]), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 11 Ebrill 2011.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiad anghenion” (“assessment of needs”) yw asesiad gan awdurdod lleol o angen defnyddiwr gwasanaeth am wasanaethau gofal cymunedol a ymgymerir yn unol ag adran 47 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990([2]) neu adran 1 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000([3]), a rhaid darllen “aseswyd bod arno angen” (“assessed as needing”) yn unol â hynny;

ystyr “asesiad modd” (“means assessment”) yw asesiad o fodd ariannol defnyddiwr gwasanaeth, a gynhelir yn unol ag adran 5(1) o’r Mesur a rheoliad 14, a rhaid darllen “asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth” (“assessment of a service user’s means”) yn unol â hynny;

ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw—

(a)     cymhorthdal incwm; neu

(b)     lwfans cyflogaeth a chymorth; neu

(c)     credyd gwarant;

 

mae i “credyd cynilion” (“savings credit”) yr ystyr a roddir i “savings credit” yn adrannau 1 a 3 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002([4]);

rhaid dehongli “credyd gwarant” (“guarantee credit”) yn unol â’r ystyr a roddir i “guarantee credit” yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002;

ystyr “cyfleuster ymweliadau cartref” (“home visiting facility”) yw ymweliad (neu ymweliadau) gan swyddog priodol awdurdod lleol â phreswylfa gyfredol y defnyddiwr gwasanaeth, neu ba bynnag fan cyfarfod arall a fynnir yn rhesymol gan y defnyddiwr gwasanaeth, at y dibenion o gasglu gwybodaeth i oleuo asesiad modd ar gyfer y person hwnnw ac o ddarparu gwybodaeth a chynnig cymorth mewn perthynas â’r broses honno;

ystyr “cymhorthdal incwm” (“income support”) yw cymhorthdal incwm a delir yn unol ag adran 124 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([5]);

ystyr “darpariaeth ddeuol” (“dual provision”) yw fod anghenion asesedig defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu bodloni —

(a)   yn rhannol gan awdurdod lleol sy’n darparu neu’n sicrhau gwasanaeth neu wasanaethau i’r person hwnnw, a

(b)   yn rhannol drwy fod y person hwnnw’n cael taliad uniongyrchol er mwyn sicrhau darpariaeth o wasanaeth arall neu o wasanaethau eraill;

mae “darparwyd” (“provided”), yn y Rheoliadau hyn, yn cynnwys gwneud trefniadau ar gyfer darparu;

 

ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw oedolyn y cynigiwyd iddo, neu sy’n cael, gwasanaeth a ddarperir gan awdurdod lleol;

 

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu Ŵyl Banc o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([6]);

ystyr “ffi unffurf” (“flat-rate charge”) yw ffi yn ôl cyfradd sefydlog am wasanaeth y mae defnyddiwr gwasanaeth yn ei gael ac y caniateir codi ffi amdano, a osodir gan awdurdod lleol heb ystyried modd y defnyddiwr gwasanaeth;

 

ystyr “gwasanaeth” (“service”) yw gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano([7]), ac os yw’r cyd-destun yn mynnu, gwasanaethau neu gyfuniad o wasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt, a rhaid dehongli “gwasanaethau” (“services”)a “cyfuniad o wasanaethau” (“combination of services”) yn unol â hynny;

ystyr “gwasanaeth dydd” (“day service”) yw gwasanaeth sy’n cael ei darparu gan awdurdod lleol sy’n bodloni rhan o anghenion asesedig defnyddiwr gwasanaeth, sy’n digwydd y tu allan i gartref y person hwnnw, ac y bwriedir iddo gynorthwyo’r person hwnnw i gwrdd ag eraill, mabwysiadu diddordebau newydd neu ymarfer ei ddiddordebau presennol, ac y mae’n cynnwys cyfleoedd gwaith;

ystyr “hawlogaeth sylfaenol” (“basic entitlement”) yw—

(a) mewn perthynas â chymhorthdal incwm —

y lwfans personol ac unrhyw bremiymau y mae hawl gan ddefnyddiwr gwasanaeth i’w cael, ond nid oes raid cynnwys y premiwm anabledd difrifol (“PAD”) os telir ef, ac os yw’r defnyddiwr gwasanaeth yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw bremiwm gofalwr y mae’r person hwnnw’n ei gael,

(b) mewn perthynas â lwfans cyflogaeth a chymorth —

y lwfans personol ac unrhyw bremiymau a chydrannau y mae hawl gan ddefnyddiwr gwasanaeth i’w cael, ond nid oes raid cynnwys y PAD os telir ef, ac os yw’r defnyddiwr gwasanaeth yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw bremiwm gofal y mae’r person hwnnw’n ei gael,

(c)  mewn perthynas â chredyd gwarant—

y lwfans personol ac unrhyw swm ychwanegol y mae hawl gan ddefnyddiwr gwasanaeth i’w gael, ond nid oes raid cynnwys y swm a ychwanegir am anabledd difrifol os telir ef, ac os yw’r defnyddiwr gwasanaeth yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw swm ychwanegol, cymwys i ofalwyr, y mae’r person hwnnw’n ei gael;

ystyr “incwm asesadwy” (“assessable income”) yw’r rhan honno o incwm defnyddiwr gwasanaeth y caniateir i awdurdod lleol wneud penderfyniad mewn perthynas â hi yn unol ag adran 7 o’r Mesur; nid yw’n cynnwys yr incwm y mae’n ofynnol bod awdurdod lleol yn ei ddiystyru yn unol â’r rheoliad 14;

ystyr “incwm net” (“net income”) yw’r incwm sydd, neu a fyddai, yn weddill gan ddefnyddiwr gwasanaeth, ar ôl didynnu, allan o incwm asesadwy’r person hwnnw, y ffi safonol (neu unrhyw ffi arall) a osodir o dan y Rheoliadau hyn, am wasanaeth a gynigiwyd neu a ddarparwyd i’r person hwnnw;

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth” (“employment and support allowance”) yw naill ai lwfans cyflogaeth a chymorth seiliedig ar gyfraniadau neu lwfans cyflogaeth a chymorth seiliedig ar incwm yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007([8]);

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010;

ystyr “mewn ysgrifen” (“in writing”) yw unrhyw fynegiant sydd wedi ei gyfansoddi o eiriau a ffigurau y gellir eu darllen, eu hatgynhyrchu a’u cyfleu drachefn, a gall gynnwys gwybodaeth a drawsyrrir ac a gedwir drwy ddulliau electronig;

mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir i’r term yn rheoliadau 8 a 9 o Reoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau i Ofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011.

Awdurdod lleol – pŵer i godi ffioedd am wasanaethau

3. Pan fo awdurdod lleol yn arfer ei bŵer i godi ffioedd am wasanaethau yn unol ag adran 1 o’r Mesur (pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal) rhaid iddo roi effaith i ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn.

Defnyddwyr gwasanaeth na chaniateir gosod ffioedd arnynt, a gwasanaethau na chaniateir gosod ffioedd mewn perthynas â hwy

4.(1) Rhaid i awdurdod lleol beidio â gosod ffi o dan adran 1 o’r Mesur ar ddefnyddiwr gwasanaeth sydd—

(a)     wedi cael cynnig, neu sy’n cael, gwasanaeth, ac sy’n dioddef o unrhyw ffurf o glefyd Creuzfeldt Jacob, pan fo ymarferydd meddygol cofrestredig wedi gwneud diagnosis clinigol o’r clefyd hwnnw;

(b)     wedi cael cynnig, neu sy’n cael, gwasanaeth a ddarperir yn rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)([9]); neu

(c)     wedi cael asesiad modd a gynhaliwyd gan awdurdod lleol, ac aseswyd bod ei incwm yn llai na’r cyfanswm y cyfeirir ato yn rheoliad 15(2).

(2) Rhaid i awdurdod lleol beidio â gosod ffi o dan adran 1 o’r Mesur mewn perthynas ag unrhyw un o’r gwasanaethau a bennir yn y paragraff hwn—

(a)     darparu cludiant i ddefnyddiwr gwasanaeth i fod yn bresennol mewn gwasanaeth dydd, pan fo’i bresenoldeb mewn gwasanaeth dydd a darpariaeth o gludiant i’w alluogi i fod yn bresennol felly wedi eu cynnwys yn rhan o’r asesiad o anghenion y defnyddiwr gwasanaeth;

(b)     darparu datganiad o wybodaeth yn unol ag adran 10(4) o'r Mesur (darparu gwybodaeth am ffioedd).

(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i bennu categorïau ychwanegol o ddefnyddwyr gwasanaeth neu o wasanaethau na chaniateir gosod ffioedd arnynt neu mewn perthynas â hwy.

(4) Nid yw rheoliadau 5 i 16 yn gymwys i ddefnyddiwr gwasanaeth y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a) neu (b) o baragraff (1).

Uchafswm rhesymol y ffi am wasanaeth

5.(1) Rhaid i awdurdod lleol arfer y pŵer yn  adran 1(2) o’r Mesur (penderfynu ffi resymol am ddarparu gwasanaeth) yn unol â darpariaethau’r rheoliad hwn.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), yr uchafswm y caiff awdurdod lleol benderfynu sy’n ffi resymol am ddarparu gwasanaeth neu gyfuniad o wasanaethau i ddefnyddiwr gwasanaeth (“uchafswm ffi rhesymol”) (“maximum reasonable charge”) yw £50 yr wythnos.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo gan ddefnyddiwr gwasanaeth anghenion asesedig a fodlonir gan ddarpariaeth ddeuol, £50 yr wythnos yw uchafswm cyfanredol y symiau y caiff awdurdod lleol wneud yn ofynnol bod y defnyddiwr gwasanaeth yn eu talu mewn perthynas â’r ddarpariaeth honno, fel—

(a)     ffi, a

(b)     taliad tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o’r gwasanaeth, a gyfrifir yn unol â Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011.

(4) Wrth gyfrifo yr uchafswm ffi rhesymol y gall defnyddiwr gwasanaeth fod dan rwymedigaeth i’w dalu, rhaid i awdurdod lleol—

(a)     diystyru cost sicrhau unrhyw wasanaeth y mae’n codi ffi unffurf amdano, a

(b)     caiff osod y ffioedd mewn perthynas â gwasanaeth o’r fath, yn ychwanegol at uchafswm rhesymol y ffi.

Y weithdrefn ar gyfer penderfynu ffi

6.(1) Wrth gyfrifo’r swm a delir gan ddefnyddiwr gwasanaeth, neu’r swm y gellir gwneud yn ofynnol bod defnyddiwr gwasanaeth yn ei dalu, rhaid i awdurdod lleol fabwysiadu’r weithdrefn a ganlyn —

(a)     cyfrifo swm costau rhesymol yr awdurdod am y gwasanaeth a dderbynnir gan, neu a gynigir i’r defnyddiwr gwasanaeth;

(b)     o’r cyfanswm hwnnw, diystyru swm unrhyw ffioedd am wasanaeth y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(4);

(c)     ar y swm canlyniadol, gweithredu’r uchafswm ffi rhesymol; ac os byddai’r swm canlyniadol, fel arall, yn fwy na’r uchafswm,  yr uchafswm hwnnw, yn ddarostyngedig i is-baragraff (ch), yw’r swm y caniateir gwneud yn ofynnol bod y defnyddiwr gwasanaeth yn ei dalu;

(ch) gwneud y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (c) yn destun penderfyniad ynghylch gallu’r defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi, yn unol ag adran 7 o’r Mesur a rheoliad 15.

(2) Ni chymerir y cam y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(ch) ac eithrio pan fo—

(a)     y defnyddiwr gwasanaeth wedi gofyn am asesiad modd; a

(b)     yr awdurdod lleol wedi cynnal asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth,

yn unol ag adran 5(1) o’r Mesur a rheoliad 14.

Gwahoddiad i ofyn am asesiad modd

7.(1) Pan fo’n ofynnol o dan adran 4 o’r Mesur (gwahoddiad i ofyn am asesid modd) bod awdurdod lleol yn rhoi gwahoddiad i ddefnyddiwr gwasanaeth i ofyn am asesiad o’i fodd o dan adran 5(1) o’r Mesur (dyletswydd i gynnal asesiad modd), neu pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gwneud hynny yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y gwahoddiad yn cynnwys manylion llawn ynglŷn â’r canlynol—

(a)     y gwasanaethau a gynigir neu a ddarperir i’r defnyddiwr gwasanaeth, ac yr ystyrir codi ffi amdanynt;

(b)     polisi’r awdurdod lleol ar godi ffioedd, gan gynnwys y canlynol—

                           (i)    ei bolisi ynglŷn â pha rai o’r gwasanaethau a ddarperir ganddo, os oes rhai, y caniateir codi ffioedd amdanynt,

                         (ii)    manylion ynghylch y ffi safonol([10]) y gellir ei gosod mewn perthynas ag unrhyw wasanaeth o’r fath,

                       (iii)    manylion ynghylch unrhyw wasanaeth y codir ffi unffurf amdano, a

                        (iv)    manylion ynghylch yr uchafswm ffi rhesymol y caniateir ei osod yn unol â rheoliad 5, neu’r uchafswm rhesymol a bennir gan yr awdurdod lleol, os yw’r swm hwnnw’n llai;

(c)     proses yr awdurdod lleol ar gyfer asesu modd;

(ch) ei weithdrefn ar gyfer ymdrin ag asesu modd defnyddiwr gwasanaeth nad yw’n cael dim ond y gwasanaethau hynny y gosodir ffi unffurf mewn perthynas â hwy;

(d)  yr wybodaeth a’r ddogfennaeth y mae’n ofynnol bod defnyddiwr gwasanaeth yn eu darparu er mwyn cynnal asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth;

(dd)            y cyfnod o amser, fel a bennir yn rheoliad 8 pan yw’n ofynnol bod defnyddiwr gwasanaeth yn cyflenwi’r wybodaeth a’r ddogfennaeth y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);

(e)  ym mha fformat y bydd yr awdurdod lleol yn fodlon derbyn y wybodaeth a’r ddogfennaeth y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d),

(f)   unrhyw gyfleuster ymweliadau cartref a ddarperir gan yr awdurdod lleol o fewn ei ardal;

(ff) y canlyniadau os methir ag ymateb i’r gwahoddiad yn unol ag is-baragraff (dd);

(g)  enw’r unigolion o fewn yr awdurdod, y dylai defnyddiwr gwasanaeth gysylltu ag ef, pe bai angen gwybodaeth neu gymorth ychwanegol ar y person hwnnw ynglŷn ag unrhyw rai o’r prosesau sy’n gysylltiedig â rhoi’r gwahoddiad;

(ng)            hawl defnyddiwr gwasanaeth i benodi trydydd parti i’w gynorthwyo neu weithredu ar ei ran, mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r broses asesu modd; ac

(h)  manylion cyswllt unrhyw sefydliad o fewn ardal yr awdurdod lleol sy’n darparu cefnogaeth neu gymorth o’r math y cyfeirir ati neu ato yn is-baragraff (ng).

(2) Pan fo awdurdod lleol o’r farn yn rhesymol fod un neu ragor o’r amgylchiadau a ragnodir gan adran 9(4) o’r Mesur (awdurdod yn disodli penderfyniadau sy’n ymwneud â gallu i dalu) yn gymwys, rhaid iddo wahodd defnyddiwr gwasanaeth i ofyn am asesiad newydd o’i fodd yn unol ag adran 5(1) o’r Mesur, gyda golwg ar i’r awdurdod wneud penderfyniad pellach ynghylch gallu’r person hwnnw i dalu ffi yn unol ag adran 9 o’r Mesur a rheoliad 15.

(3) Rhaid i awdurdod lleol ddarparu i ddefnyddiwr gwasanaeth yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) mewn ysgrifen, neu mewn unrhyw fformat arall sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu’r defnyddiwr gwasanaeth([11]).

Yr ymateb i wahoddiad i ofyn am asesiad modd

8.(1) Rhaid i ddefnyddiwr gwasanaeth neu, yn ddarostyngedig i baragraff (3) neu (4), gynrychiolydd defnyddiwr gwasanaeth, ddarparu ymateb i’r awdurdod lleol o fewn 15 diwrnod gwaith (neu ba bynnag gyfnod hwy y caiff awdurdod lleol, yn rhesymol, ei ganiatáu yn unol â rheoliad 9) ar ôl y dyddiad y rhoddwyd y gwahoddiad.

(2) Mae defnyddiwr gwasanaeth yn cydymffurfio â’r gofyniad a bennir ym mharagraff (1) os yw’r person hwnnw, neu gynrychiolydd y person hwnnw—

(a)     yn gofyn am i’r awdurdod lleol gynnal asesiad o’i fodd yn unol ag adran 5(1) o’r Mesur;

(b)     yn gofyn am gymorth gan unrhyw gyfleuster ymweliadau cartref a ddarperir, os oes angen cymorth o’r fath;

(c)     yn darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan yr awdurdod lleol, yn y fformat y cytunodd yr awdurdod lleol i dderbyn yr wybodaeth ynddo;

(ch) yn darparu’r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani gan yr awdurdod lleol;

(d)     yn gofyn am estyniad amser, os oes angen un, er mwyn darparu’r wybodaeth neu’r dogfennaeth (neu’r ddwy) y gofynnwyd amdani neu amdanynt yn unol â rheoliad 7(1)(d), gan roi rheswm neu resymau pam y mae angen estyniad amser.

(3) Pan fo defnyddiwr gwasanaeth wedi penodi cynrychiolydd i weithredu ar ei ran, rhaid i’r defnyddiwr gwasanaeth ddarparu’r canlynol i’r awdurdod lleol —

(a)     enw a chyfeiriad y cynrychiolydd,

(b)     cadarnhad bod y cynrychiolydd yn fodlon gweithredu ar ei ran,

(c)     manylion ynghylch natur a maint cyfranogiad y cynrychiolydd yn y broses o asesu modd, ac

(ch) manylion ynghylch natur a maint yr wybodaeth y caiff yr awdurdod lleol ei rhannu gyda chynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth.

(4) Pan fod cynrychiolydd wedi ei benodi i weithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth, gan y Llys Gwarchod neu’n unol â Deddf Atwrneiaeth Barhaus 1985([12]) neu Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005([13]), rhaid i’r dirprwy neu’r atwrnai a benodir felly ddarparu i’r awdurdod lleol—

(a)     y fersiwn wreiddiol neu gopi ardystiedig o’r atwrneiaeth barhaus, neu atwrneiaeth arhosol neu gopi ardystiedig o’r gorchymyn llys priodol, a 

(b)     dogfennaeth i brofi enw a chyfeiriad yr atwrnai neu ddirprwy a’r defnyddiwr gwasanaeth y mae’n gweithredu ar ei ran.

(5) Onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall, pan fo cynrychiolydd wedi ei benodi yn unol â pharagraff (3) neu (4), mae unrhyw gyfeiriad at ddefnyddiwr gwasanaeth yn y rheoliad hwn neu yn rheoliadau 9 i 13 yn cynnwys cynrychiolydd y person hwnnw.

(6) Caniateir i unrhyw gais a wneir yn unol â pharagraff (2), neu benodiad a wneir yn unol â pharagraff (3), gael ei wneud neu’i gyfleu ar lafar neu mewn ysgrifen gan ddefnyddiwr gwasanaeth, ond rhaid iddo gael ei gadarnhau gan awdurdod lleol mewn ysgrifen neu mewn unrhyw fformat arall sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu’r defnyddiwr gwasanaeth.

Cais am estyniad amser er mwyn darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth

9.(1) Rhaid i awdurdod lleol gydsynio ag unrhyw gais rhesymol am estyniad amser, a wneir yn unol â rheoliad 8(2)(d).

(2) Os yw defnyddiwr gwasanaeth yn gofyn am estyniad amser ar lafar, caiff awdurdod lleol roi ei ymateb i’r cais hwnnw ar lafar, ond rhaid iddo hefyd gadarnhau’r ymateb mewn ysgrifen, neu mewn unrhyw fformat arall sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu’r defnyddiwr gwasanaeth.

(3) Wrth ymateb i gais am estyniad amser, rhaid i awdurdod lleol gadarnhau a yw’n caniatáu’r cais ai peidio, ac os yw’n ei ganiatáu, rhaid iddo ddatgan cyfnod yr estyniad.

(4) Pan fo awdurdod lleol yn gwrthod cais am estyniad amser, rhaid iddo roi ei resymau dros wrthod y cais.

Methiant i ymateb i wahoddiad i ofyn am asesiad modd

10.(1) Pan fo defnyddiwr gwasanaeth yn peidio ag ymateb i wahoddiad yn unol â rheoliad 8, caiff awdurdod lleol osod y ffi safonol ar gyfer y gwasanaeth a gynigiwyd, neu y mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn ei gael, ac sydd, yn y naill achos a’r llall, yn destun y gwahoddiad.

(2) Mae pŵer awdurdod lleol i osod ffi safonol yn unol â pharagraff (1) yn ddarostyngedig i’r  uchafswm ffi rhesymol a ragnodir yn rheoliad 5.

(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, bydd y ffi   a osodir ar ddefnyddiwr gwasanaeth yn daladwy o’r dyddiad y darperir datganiad gan yr awdurdod lleol yn unol ag adran 10(4) o’r Mesur (darparu gwybodaeth am ffioedd).

(4) Os yw defnyddiwr gwasanaeth yn ymateb i wahoddiad i ofyn am asesiad modd ar ôl i awdurdod lleol osod y ffi safonol neu, pan fo’n berthnasol, yr uchafswm ffi rhesymol—

(a)     rhaid i’r awdurdod lleol fynd ymlaen i gynnal asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth yn unol ag adran 5(1) o’r Mesur (dyletswydd i gynnal asesiad modd) a rheoliad 14 ac i wneud penderfyniad yn unol ag adran 7 o’r Mesur (penderfyniadau sy’n ymwneud â gallu i dalu)([14]) a rheoliad 15;

(b)     ni fydd y camau a gymerir gan yr awdurdod lleol o dan is-baragraff (a) yn effeithio ar atebolrwydd y defnyddiwr gwasanaeth i dalu unrhyw ffioedd a dynnwyd ganddo o’r dyddiad y darparwyd y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3); ac

(c)     bydd y datganiad a ddarperir yn unol ag adran 10(4) o’r Mesur, o ganlyniad i’r asesiad a’r penderfyniad y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) (“yr ail ddatganiad”) (“the second statement”) yn disodli’r datganiad a ddarparwyd yn unol â pharagraff (3), a bydd yr ail ddatganiad yn cael effaith o’r dyddiad y’i darperir.

(5) Yn y Rheoliadau hyn, bydd unrhyw ddatganiad, y mae’n ofynnol bod awdurdod lleol yn ei ddarparu yn unol  ag adran 10(4) o’r Mesur, wedi ei “ddarparu” (“provided”) ar y dyddiad y’i dyroddir gan awdurdod lleol.

Methiant i gyflenwi’r holl wybodaeth a dogfennaeth perthnasol

11.(1) Pan fo defnyddiwr gwasanaeth wedi methu—

(a)     cyflenwi, neu

(b)     ceisio estyniad amser ar gyfer cyflenwi,

yr holl wybodaeth a dogfennaeth y gofynnwyd amdanynt yn rhesymol gan awdurdod lleol i’w alluogi i gynnal asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth yn unol ag adran 5(1) o’r Mesur a rheoliad 14, caiff yr awdurdod lleol wneud asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth ar sail yr wybodaeth rannol neu’r ddogfennaeth rannol (neu’r ddwy) a gyflenwyd.

(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, caiff yr awdurdod lleol—

(a)     gwneud penderfyniad yn unol ag adran 7 of the Mesur a rheoliad 15;

(b)     yn ddarostyngedig i’r uchafswm ffi rhesymol a ragnodir yn rheoliad 5, gosod ffi ar y defnyddiwr gwasanaeth ar sail ei benderfyniad; ac

(c)     mynd ymlaen i ddarparu datganiad yn unol ag adran 10(4) o’r Mesur.

(3) Pan osodir ffi yn unol â pharagraff (2), gosodir y ffi honno o’r dyddiad y darperir y datganiad gan yr awdurdod lleol, y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c).

Tynnu cais am asesiad modd yn ôl

12.(1) Caiff defnyddiwr gwasanaeth dynnu cais am asesiad modd yn ôl drwy hysbysu awdurdod lleol o’i benderfyniad, ar unrhyw adeg cyn bo’r asesiad modd wedi ei gwblhau.

(2) Caiff defnyddiwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod lleol o’r penderfyniad i dynnu cais am asesiad modd yn ôl naill ai ar lafar, mewn ysgrifen, neu mewn unrhyw fformat arall sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu’r defnyddiwr gwasanaeth.

(3) Pan dynnir cais yn ôl yn unol â’r rheoliad hwn, caiff awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i’r  uchafswm ffi rhesymol a ragnodir gan reoliad 5, osod y ffi safonol mewn perthynas â’r gwasanaeth a oedd yn destun y gwahoddiad i ofyn am asesiad modd.

(4) Mewn unrhyw achos pan fo defnyddiwr gwasanaeth yn hysbysu awdurdod lleol ynghylch tynnu ei gais am asesiad modd yn ôl, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)     cydnabod cael yr hysbysiad, mewn ysgrifen ac mewn unrhyw fformat arall sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu’r defnyddiwr gwasanaeth;

(b)     rhoi gwybod i’r defnyddiwr gwasanaeth nad yw tynnu’r cais hwnnw yn ôl yn rhwystro cyflwyno cais pellach am asesiad modd, mewn perthynas â’r un gwasanaeth neu wasanaeth gwahanol; ac

(c)     rhoi gwybod i’r defnyddiwr gwasanaeth pa un ai’r ffi safonol ynteu’r uchafswm ffi rhesymol a ragnodir yn rheoliad 5, a osodir mewn perthynas â’r gwasanaeth a gynigir neu a geir gan y defnyddiwr gwasanaeth.

(5) Pan osodir ffi ar ddefnyddiwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (3), gosodir y ffi honno o’r dyddiad y darperir y datganiad gan yr awdurdod lleol, yn unol ag adran 10(4) o’r Mesur.

Dim dyletswydd i gynnal asesiad modd

13. Nid oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth—

(a)     nad yw’n cael unrhyw wasanaeth ac eithrio gwasanaeth neu gyfuniad o wasanaethau y mae’r awdurdod lleol yn codi ffi unffurf amdano, neu

(b)     sy’n peidio ag ymateb i wahoddiad i ofyn am asesiad modd yn unol â rheoliad 8, neu

(c)     sy’n tynnu’n ôl ei gais am asesiad modd yn unol â rheoliad 12.

Proses yr asesiad modd

14.(1) Pan fo awdurdod lleol yn cynnal asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth yn unol ag adran 5(1) o’r Mesur, rhaid iddo sicrhau bod y broses asesu a ddefnyddir ganddo’n rhoi effaith i ofynion y rheoliad hwn.

(2) Wrth gynnal asesiad modd, os yw awdurdod lleol yn cymryd i ystyriaeth gynilion neu gyfalaf defnyddiwr gwasanaeth, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)     yn ddarostyngedig i is-baragraff (b) ac i baragraff (3), gyfrifo cyfalaf defnyddiwr gwasanaeth yn unol â darpariaethau Rhan 3 o Reoliadau 1992;

(b)     diystyru gwerth prif breswylfa’r defnyddiwr gwasanaeth wrth gyfrifo cyfalaf y person hwnnw.

(3) Nid oes dim ym mharagraff (2) sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol, wrth gyfrifo cyfalaf defnyddiwr gwasanaeth, i gymhwyso unrhyw griteria sy’n fwy hael wrth y defnyddiwr gwasanaeth na’r criteria a gymhwysir o bryd i’w gilydd yn y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a).

(4) Wrth gynnal asesiad modd, os yw awdurdod lleol yn cymryd i ystyriaeth incwm defnyddiwr gwasanaeth, rhaid i’r awdurdod lleol

(a)     asesu pa ran o incwm y defnyddiwr gwasanaeth sy’n cyfansoddi’n briodol “enillion” (“earnings”) yn unol â’r diffiniad o “earnings” yn rheoliadau 35 a 37 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006([15]), neu, yn ôl fel y digwydd, yn rheoliadau 35 a 37 o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd oedran sy'n eu gwneud yn gymwys i gredyd pensiwn y wladwriaeth) 2006([16]);

(b)     diystyru’r enillion hynny yn llawn;

(c)     diystyru yn llawn unrhyw swm a gaiff defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â chredyd cynilion; a

(ch) diystyru yn llawn unrhyw daliad a geir gan ddefnyddiwr gwasanaeth, ac y cyfeirir ato ym mharagraff 24 o Atodlen 3 i Reoliadau 1992 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion)([17]).

(5) Nid oes dim ym mharagraff (4) sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol, wrth gyfrifo incwm defnyddiwr gwasanaeth, i gymhwyso unrhyw griteria sy’n fwy hael wrth y defnyddiwr gwasanaeth na’r darpariaethau ym mharagraff (4).

(6) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992([18]).

Penderfyniad ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi

15.(1) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad ynghylch gallu ddefnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi yn unol ag adran 7 o’r Mesur (penderfyniadau sy’n ymwneud â gallu i dalu) neu adran 9 o’r Mesur (awdurdod yn disodli penderfyniadau sy’n ymwneud â gallu i dalu) rhaid iddo roi effaith i ofynion y rheoliad hwn.

(2) Rhaid i awdurdod lleol sicrhau, wrth benderfynu’r ffi sydd i’w gosod am wasanaeth a gynigir i, neu a geir gan, ddefnyddiwr gwasanaeth, nad yw hynny’n lleihau incwm net y defnyddiwr gwasanaeth—

(a)     pan fo’r defnyddiwr gwasanaeth yn cael budd-dal perthnasol, i swm sy’n llai na chyfanswm y canlynol—

                           (i)    yr hawlogaeth sylfaenol i’r budd-dal perthnasol y mae’r person hwnnw’n ei gael, a

                         (ii)    swm o ddim llai na 35% o’r hawlogaeth honno (“clustog”) (“a buffer”), a

                       (iii)    swm i ddigolledu’r defnyddiwr gwasanaeth am ei wariant perthynol i’w anabledd, sef dim llai na 10% o’r hawlogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (i); neu

(b)     pan nad yw’r defnyddiwr gwasanaeth yn cael budd-dal perthnasol, i swm sy’n llai na chyfanswm y canlynol—

                           (i)    swm a asesir yn rhesymol gan yr awdurdod lleol, o ystyried oedran, lefel anabledd ac amgylchiadau personol y person, a fyddai’n hafal i hawlogaeth sylfaenol y defnyddiwr gwasanaeth i fudd-dal perthnasol, a

                         (ii)    clustog o ddim llai na 35% o’r swm a amcangyfrifwyd ym mharagraff (i), a

                       (iii)    swm i ddigolledu’r defnyddiwr gwasanaeth am ei wariant perthynol i’w anabledd, sef dim llai na 10% o’r swm a amcangyfrifwyd ym mharagraff (i).

(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i gynyddu canran y glustog neu’r swm i ddigolledu am unrhyw wariant perthynol i anabledd, wrth wneud penderfyniad yn unol â pharagraff (1).

Effaith penderfyniad ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi

16.(1) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi yn unol â rheoliad 15 am wasanaeth—

(a)     sy’n cael ei gynnig i ddefnyddiwr gwasanaeth am y tro cyntaf; neu

(b)     sy’n cael ei ddarparu i ddefnyddiwr gwasanaeth, ond y gosodir ffi mewn perthynas ar ef am y tro cyntaf,

ni chaiff yr awdurdod lleol osod ffi cyn y dyddiad y darperir datganiad yn unol ag adran 10(4) o’r Mesur.

(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad pellach ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi, yn unol â rheoliad 7(2), ni chaiff osod nac ychwaith newid ffi cyn y dyddiad y darperir datganiad yn unol ag adran 10(4) o’r Mesur.

(3) Pan fo datganiad, y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) neu (2), yn disodli datganiad a wnaed yn gynharach yn unol ag adran 10(4) o’r Mesur (“y datganiad cynharach”) (“the earlier statement”), bydd y datganiad cynharach yn parhau i gael effaith tan y dyddiad y darperir y datganiad dilynol.

Arbediad

17. Yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, os oes—

(a)     asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth, neu

(b)     penderfyniad ynglŷn â’r ffi sydd i’w thalu gan ddefnyddiwr gwasanaeth,

yn cael effaith, bydd y cyfryw asesiad neu benderfyniad yn parhau i gael effaith, er nad yw wedi ei wneud yn unol â’r Mesur ac â’r Rheoliadau hyn.

18.  Bydd unrhyw asesiad neu benderfyniad y cyfeirir ato yn rheoliad 17 yn parhau i gael effaith hyd nes disodlir ef gan asesiad neu benderfyniad a wneir yn unol â’r Mesur ac â’r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth drosiannol

19. Os yw awdurdod lleol, yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cael gwybodaeth a dogfennaeth gan ddefnyddiwr gwasanaeth i’w alluogi i—

(a)     cynnal asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth, neu

(b)     penderfynu ar y ffi sydd i’w thalu gan y defnyddiwr gwasanaeth,

ond nad yw’r asesiad wedi ei gynnal, neu nad yw’r penderfyniad wedi ei wneud pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i’r awdurdod lleol gynnal y cyfryw asesiad yn unol â darpariaethau adran 5 o’r Mesur a rheoliad 14 neu wneud y cyfryw benderfyniad yn unol â darpariaethau adrannau 7 neu 9 o’r Mesur a rheoliad 15.

Darpariaeth ddarfodol

20.(1) Pan fo asesiad  yn cael effaith yn unol â rheoliad 18—

(a)     rhaid i’r awdurdod lleol gymhwyso darpariaethau rheoliadau 4, 5, 6 a 14 i’r cyfryw asesiad er na chynhaliwyd yr asesiad yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac eithrio na fydd rheoliad 6(2) yn cael effaith,

(b)     ni fydd yn ofynnol i’r awdurdod lleol weithredu yn unol ag adran 4 o'r Mesur neu reoliad 7, ac eithrio y bydd rheoliad 7(2) yn cael effaith,

(c)     rhaid i’r awdurdod lleol gynnal asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth yn unol ag adran 5 o’r Mesur os bodlonir pob un o’r amodau yn  adran 6 o’r Mesur ac os yw’r defnyddiwr gwasanaeth wedi gofyn am asesiad o’r fath, ac

(ch) rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu ynghylch gallu defnyddiwr gwasanaeth i dalu ffi yn unol â rheoliad 15, fel pe bai’r asesiad o fodd y defnyddiwr gwasanaeth wedi ei gynnal yn unol ag adran 7 neu 9 o’r Mesur.

(2) Mae rheoliad 16(3) yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad a wneir yn unol â pharagraff (1)(ch), fe pe bai’r datganiad cynharach y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw yn benderfyniad sy’n cael effaith yn unol â rheoliad 18.

 

 

 

Gwenda Thomas

 

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

24 Mawrth 2011

 

 

 



([1])           2010 mccc 2 (“y Mesur”). Gweler adran 17 o’r Mesur am y diffiniad o “rheoliadau”.

([2])           1990 p.19.

([3])           2000 p.16.

([4])           2002 p.16.

([5])           1992 p.4

([6])           1971 p.80.

([7])           Diffinnir “gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano” yn adran 13 o’r Mesur.

([8])           2007 p. 5.

([9])           1983 p. 20.

([10])         Diffinnir “ffi safonol” yn adran 7(4) o’r Mesur.

([11])         Am esboniad o ystyr “unrhyw fformat sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu’r defnyddiwr gwasanaeth”, gweler y canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, sy’n dwyn yr enw Introducing More Consistency in Local Authority Charging for Non-Residential Social Services.

([12])         1985 p. 29 (“Deddf 1985”). Disodlwyd Deddf 1985 gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (“Deddf 2005”), a disodlwyd atwrneiaeth barhaus yr un pryd gan atwrneiaeth arhosol (ond bydd atwrneiaethau parhaus a wnaed cyn 1 Hydref 2007 yn parhau’n ddilys). Mae Deddf 2005 yn caniatáu i’r Llys Gwarchod benodi dirprwyon i wneud penderfyniadau ar ran personau nad oes “galluedd” ganddynt yn yr ystyr a roddir i “capacity” gan Ddeddf 2005 Act.  Bydd dirprwyon (“deputies”) yn cymryd lle “derbynwyr” (“receivers”) (ond bydd unrhyw dderbynnydd a benodwyd cyn 1 Hydref 2007 yn cadw ei bwerau ond yn cael ei drin fel dirprwy gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (sy’n cymryd lle’r Swyddfa Gwarcheidiaeth Gyhoeddus).

([13])         2005 p.9.

([14])         Mae adran 7 o’r Mesur yn gwneud darpariaeth i awdurdod lleol benderfynu a yw’n rhesymol ymarferol ai peidio, i  ddefnyddiwr gwasanaeth dalu’r ffi safonol (neu unrhyw ffi) am wasanaeth a gynigir neu a ddarperir i’r defnyddiwr gwasanaeth hwnnw gan awdurdod lleol.

([15])         O.S. 2006/213.

([16])         O.S. 2006/214.

([17])         Disgrifir y taliadau, y cyfeirir atynt ym mharagraff 24 o Atodlen 3 i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992, ym mharagraff 39 o Atodlen 9 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm  (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967) (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion) fel “any payment made under or by the MacFarlane Trust, the Macfarlane (Special Payments) Trust, the Macfarlane (Special Payments) (No.2) Trust,..the Fund, the Eileen Trust, MFET Limited or the Independent Living Fund (2006).”.

([18])         O.S. 1992/2977.